I ni sy’n byw ar lannau Afon Menai mae llanw a thrai’r Iwerydd yn rhan o’n
bywyd beunyddiol, a’r môr ddwywaith bob diwrnod yn llenwi ac yn gwagio’r
hafn sy’n creu’r ffin rhwng Môn ac Arfon. I ni yn Arfon, yr afon hon sy’n ein
diffinio ni, yn enwedig ar benllanw. Ar ddistyll, ac inc glas y Fenai fel petai
ar ddiflannu, mae’n bygwth ein difodi’n llwyr.
Er i mi ddweud ‘afon’, nid afon mo Afon Menai go iawn, gan mai hallt
yw’r dŵr. Culfor ydyw: llawes o fôr rhyw filltir o led ac ugain o hyd sy’n
cysylltu Bae Caernarfon yn y gorllewin a Bae Conwy yn y dwyrain. Ansad
yw ei gwely, yn newid yn barhaus wrth i’r tywod symud gyda’r llifoedd a’r
gwrthlifoedd nerthol, ac mae’n berygl bywyd i longau a dynion.
Credaf fy mod yn nodweddiadol o drigolion Caernarfon am mai amwys
yw fy agwedd at yr afon hon sy’n ein hatgoffa bob dydd pa mor bell i fynd.
Diolchwn iddi am ddod rhyngom ac amaethwyr gwastad Môn. Diolchwn
iddi am ddod â’r byd i’n tref hynafol: am wneud Hambro, a Bordô, a
Sydney a Valparaiso yn fwy cyfarwydd inni na phentrefi mynyddig Eryri, ac
am ddod ag olew a gwinoedd a baco shag at ein ffroenau agored.
Ond ychydig o Gofis a deithiodd hyd-ddi erioed. Ac ychydig fyddai eisiau, o
gofio llongddrylliadau enbyd y gorffennol.
Hil ar wahân i’r Cofis cyffredin oedd peilotiaid Afon Menai, a dim ond un
ohonynt a oroesoedd i’m dyddiau i. Enw hwnnw oedd Abram Janeiro
Jones.
Bu ei dad yn fêt ar y New World II, a ganed ei fab yn y doc yn Rio, yn
faban cydnerth a bochgoch. Gwanychodd y fam ar y daith o Frasil i Gymru
a marw ym Môr Iwerydd. Dysgodd ei dad ei wers. Rhoes heibio fordeithio
a dod yn beilot ar y Fenai fel ei dad a’i daid. Magodd ei fab yn beilot o’r
crud.
Y mab hwnnw, Abram Janeiro Jones, oedd yr olaf o linach anrhydeddus
peilotiaid Afon Menai. Wedi i long deithio moroedd garwaf y byd, a dociau
Lerpwl o’r diwedd o fewn ei chyrraedd, rhaid fyddai cael peilot i’w thywys
trwy’r culfor twyllodrus rhwng Môn ac Arfon.
Prin iawn yw’r llongau cargo sy’n dod y ffordd hyn heddiw. Llongau pleser
yw llongau’r Fenai erbyn hyn. Bu Janeiro’n segur ers hydoedd, oherwydd
ni fynnai ymostwng i dywys iots. Nid oedd ganddo blant, am y gwyddem, a
hanner dysgodd ei grefft i fab cymydog fel y gallai hwnnw ymdrin â’r mân
fadau gloyw.
Treuliodd flwyddyn neu ddwy yn pysgota lledod ym Mae Caernarfon, ond
blinodd ar yr heigiau undonog a thaflodd ei rwydi i waelod y môr ym mwlch
cul Abermenai.
Canfu waith, yn y pen draw, yn geidwad Pont yr Abar lle mae afon Saint yn
cario’r mynydd i’r môr. Ar alwad cwch, atelir y cerddwyr ac ymranna’r bont
yn ddwy i adael cwch allan o borthladd y dref, neu i mewn iddo.
Trigai Janeiro ym mwthyn ceidwad y bont yng nghysgod Coed Alun.
Eisteddai bob dydd yn nrws ei dŷ, a hwylbrennau’r llongau pleser yn
goedwig yn y cei, a Thŵr Eryr y castell yn dod rhyngddo a Maes y dref.
Pan seiniai rhyw gwch, codai o’i sedd a mynd i’w dŷ i wasgu’r botwm coch
a weithiai’r bont. Wedi i’r cwch fynd heibio gwasgai’r botwm gwyrdd a
dychwelai’r bont i’w lle er mwyn gadael i’r cerddwyr groesi’r Abar.
Anaml y croesai Janeiro Bont yr Abar i’r dafarn neu i’r dref. Ni wyddai
neb sut y cadwai gorff ac enaid ynghyd. Sonnid ei fod yn crwydro traeth
y Foryd ben bore bach yn sŵn galarnadu pïod y môr, ac mai cocos a
gwichiaid a bodiau crancod a’i cynhaliai. Sonnid ei fod yn ysmygu gwymon
yn ei bibell, ac yn yfed dŵr heli. Ond ni feiddiodd neb erioed agosáu i ofyn.
Gŵr a garai fod wrtho’i hun ydoedd.
Eto, fel y bydd bachgen a’i wreiddiau’n ddwfn mewn tir sych yn teimlo
awydd annheuluol i fynd i’r môr, bûm innau, ers y tro cyntaf i mi ei weld,
yn ysu am forio ar ymchwydd y cefnfor hwn o ddyn. Plentyn dengmlwydd
oeddwn, yn croesi Pont yr Abar i’r cae swings yr ochr draw, pan welais
fotymau arian ei gôt yn disgleirio yng ngwyll Coed Alun. Fe’m tynnwyd
atynt fel at oleudy.
Ni welodd yntau mohonof yn nesáu. Roedd ei drem ar y môr a golwg bell
yn ei lygaid. Ai glas oeddent? Ynteu ai’r Fenai a welais yn ei lygaid?
Dim ond ar y funud olaf y trodd a’m gweld yn dod yn eiddil a bwriadus
rhyngddo a’r castell. Cythruddodd i gyd. Nid anghofiaf ei floedd byth, na
brath y rhaff a’i gwlwm a chwipiodd am fy nghoesau noeth, a minnau’n ei
miglo hi’n ôl dros y bont.
Ni fentrais dros yr Abar am flynyddoedd wedyn: ni allai na fan Mr Whippy,
na ffair haf y Foryd, na’r sôn am snogs genod yng Nghoed Alun, fy
nhemtio dros y bont i ŵydd Janeiro. Ond gwyddwn ei fod yno o hyd, yn
nrws ei dŷ yr ochr draw i’r castell, yn aros amdanaf a golwg bell yn ei
lygaid.
Dim ond a’m llais wedi torri, a’m gên yn taflu barf, a ninnau wedi dechrau
hel diod yn nhafarn yr Anglesey, y meiddiais glosio ato eto. Hon oedd fy
mlwyddyn olaf yn y dref. Serennwn yng ngwersi daearyddiaeth Ysgol Syr
Huw, ac roedd fy mryd ar fynd i goleg Lerpwl i raddio yn yr wyddor honno.
Fy mhrosiect ymchwil dros y Pasg oedd Afon Menai. Canfûm lawer ffaith
yn llyfrgell y dref ac yn archifdy Doc Fictoria. Des i amgyffred ffiniau’r
Fenai: gwneuthuriad ei glannau ansad; symudiadau’r llif ar lanw a thrai;
lleoliadau’r creigiau garwaf, y trobyllau, y dŵr bas a’r sianeli dwfn, ynghyd
â phatrwm arbennig y bwiau coch a gwyrdd mewn afon ac iddi ddwy geg.
Dysgais am y rhai a fu’n byw oddi arni: pysgotwyr, llongwyr, smyglwyr,
cyfalafwyr, a gyrwyr fferis gwaelod-gwastad Abermenai, Tal y Foel a Moel
y Don. Gwelais y bywyd oedd ynddi: yn fecryll, penwaig, lledod, crancod,
cimychiaid, cocos, gwichiaid a chregyn gleision, a myrdd o greaduriaid a
phlanhigion na ddysgasom fanteisio arnynt eto...
Gwnâi fy ngwaith gynnydd da. Ond teimlwn rywsut fod rhywbeth ar goll,
rhyw elfen bersonol... Nid oeddwn wedi ystyried holi Janeiro bryd hynny.
Dydd Gwener y Groglith ydoedd pan adewais y Maes a rowndio’r castell
er mwyn cyrraedd y cei. Yno, rhwng Pont yr Abar a thafarn yr Anglesey
yr ymgynullai’r hen longwyr i dalu gwrogaeth i’r Fenai. Fe’u holais yn
drwyadl, ac roeddent yn fwy na pharod i drafod ‘afon Gnarfon’, yn enwedig
am bris eu disychedu.
Yn wir, aethant i hwyl eu hanner atgofion am y Fenai: am forherwyr
Gwyddelig o Carrickfergus; am long smyglo’n methu dianc rhag gwyr y
cyllid ar Far Caernarfon; am hen feddwyn-faledwr y cei llechi, am fewnforio
carthion siopau Dulyn i’w ddefnyddio’n wrtaith yn Arfon; am blant yn tynnu
rhaff i lusgo sgwneriaid hyd y cei; am y regatta bob Awst ac am ddyddiau’r
stemar bach a gysylltai’r dref ac Ynys Môn. Soniwyd am golli’r Speranza,
Mon Amour a HMS Conway, ac am ddryllio bríg y Queen of the Sea oddi
ar gwningar Niwbwrch, a boddi ugain o deithwyr, pedwar ugain o foch, dwy
fuwch a thunnell o fenyn.
Yn sŵn eu paldaruo roedd enwau mannau’r Fenai fel enwau gwlad bell
i hogyn o’r dref: Mussel Bank, Belan, Tŷ Calch, Traeth Melynog, Traeth
Gwyllt, Carreg Frydan, y Cribinau, Ynys Gored Goch, Pwll Fanogl, Craig y
Pwll a Phwll Ceris...
‘Pwll Ceris!’ bachais innau.
Ond dyna pryd y tawodd pob un. Drachtiodd Îf Bach a Sven o’u cwrw,
ac aeth Deio i danio matsys ar ei drowsus. Gostyngwyd golygon a
gostyngwyd llais.
‘Ei di ddim i waelod hwnnw, ’ngwas i...’
‘Bermuda Triangle afon Gnarfon.’
‘Maen nhw’n deud bod ’na gaer yn ei waelod o.’
‘Ker Is,’ meddai Îf Bach a aned yn Llydaw.
‘Swellies fyddwn ni’n ddeud.’
‘Dim ond un dyn fuodd yn y Swellies, meddan nhw,’ meddai Padi.
A lledodd y sisial, nes i mi glywed llefaru enw Abram Janeiro Jones. A
dyna pryd y cododd pawb eu pennau a chiledrych tuag at fwthyn ceidwad
y bont.
‘Fiw i neb fynd ar ei gyfyl o.’
‘Be os a’i?’ meddwn innau, a thagodd Sven ar ei beint.
‘Dos di ato fo, mêt, a ti’n gonar!’
‘Ti’n saffach yn y Swellies nag efo hwnna!’
Chwarddodd pawb yn nerfus, a downio wisgi yr un.
Dim ond wedi i’r hogia fynd am eu cinio y meiddiais innau groesi’r bont.
O’i sedd yn ffrâm y drws gwyliais Janeiro’n edrych arnaf yn nesáu. Caeais
fy llygaid a cherdded yn fy mlaen. Pan chwipiodd y rhaff am fy nghoesau
daliais fy nghwrs. Pan deimlais y ddolen yn cydio, a’r cwlwm yn tynhau am
fy ffêr, daliais fy nghwrs. A phan ddaeth y plwc sydyn, roeddwn yn barod i
ddisgyn i’r llawr a bwrw fy mhen ar lwybr y peilot.
Dadebrais o’i glywed yn dwrdio.
‘Ti ’di bod yn hitio’r botal, y cachwr bach!’
Fe’m llusgodd gerfydd fy ngwar, nid tuag at Bont yr Abar fel y disgwyliwn,
ond at y jeti ar y dde, lle’r oedd arwydd perygl, a lle byddai hogiau’r dref yn
deifio am bres.
‘Ty’d yn ôl pan ti’n sobor, cyw crinc,’ meddai Janeiro, a chyn i mi wybod
be’ oedd be’ cefais hwth dros yr ymyl. Teimlais fy nghorff yn disgyn fel cêbl
angor trwy’r aer, a dyfroedd llygredig y Fenai’n dod yn nes ac yn nes.
Ar ôl llyncu digon i ddod i’r wyneb eto, a nofio i’r lan wrth risiau’r Floating
Restaurant, a thynnu’r gwymon oedd yn gaglau am fy ffêr, a cherdded
trwy’r Maes fel llygoden ddŵr; ac ar ôl i mam fynd â mi am bigiad i Ysbyty
Gwynedd, ac i mi sychu’r llyfr nodiadau lle’r oedd geiriau’r llongwyr wedi
llifo’n un, ystyriais eiriau Janeiro eto.
‘Ty’d yn ôl pan ti’n sobor...’
Ar Sadwrn y Pasg, croesais y bont eto a chamu ar ei lwybr.
‘Tri chynnig i Gymro!’ galwodd Janeiro’n goeglyd o ffrâm drws ei dŷ.
‘Tri...?’
‘Mi fuest ti yma ers talwm, do, cyw crinc.’
Gwridais innau am ei fod yn cofio.
‘Isio gwybod am y Swellies.’
‘Pam?’
‘Gwaith ysgol.’
‘Wela’ i.’
Saib.
‘Pwll Ceris fydda i’n ei ddeud,’ meddai Janeiro wedyn.
Gwridais eto.
‘Mi glywais i eich bod chi...’
‘Ty’d yn d’ôl fory,’ torrodd y peilot ar fy nhraws. ‘Os ti’n ddigon o ddyn.’
Croesais Bont yr Abar y rhwyfus i gyd. Ond hanner ffordd drosodd caeodd
y giatiau o’m blaen ac atal fy ngham.
Symudodd y tir dan fy nhraed, a’r peth nesaf a welais oedd bod y bont yn
ymrannu’n ddwy, a minnau’n symud gyda hi. Neu yn hytrach symudwn
gyda’i hanner hi, a’m trem yn troi’n banorama, o Dŵr Eryr y castell, heibio
i’r Anglesey, cyn dod i orffwys ar y Fenai; a thu hwnt iddi y ddwy goedon
honno ym Môn y byddai’r haul - o edrych o Borth yr Aur - yn machlud
rhyngddynt ar ddiwrnod hiraf yr haf.
Ond nid oedd na chwch na hwylbren yn dod! Trois at fwthyn ceidwad y
bont am eglurhad, ac yno, yn ffrâm y drws, safai Janeiro yn chwerthin o
waelod ei fol.
‘Enjoia’r olygfa, cyw crinc!’ galwodd, a diflannu i dywyllwch ei dŷ.
Bûm yno am chwarter awr, yn hofran rhwng dwy lan ac elyrch y frenhines
yn hwylio danaf. A hwyrach mai yno y byddwn i byth, oni bai am ddyfodiad
llond bws o bobl ddiarth a’u bryd ar fynd am dro, gan orfodi Janeiro i
wasgu’r botwm gwyrdd a’m rhyddhau i fynd adref.
Pan oedd mam yn y capel fore Sul y Pasg croesais Bont yr Abar am y
trydydd tro. Gwelwn Janeiro’n tanio’i bibell wrth i mi nesáu, ac erbyn dod
ato roedd oglau mwg gwymon yn llenwi’r lle, a’r peilot eisoes wedi dechrau
llefaru.
‘Mae gan Bwll Ceris,’ meddai, ‘enw drwg gan bawb sy’n honni ei nabod...’
Cipiodd y beiro o’m llaw a’i thaflu i’r coed.
‘Mae gan Bwll Ceris enw drwg gan bawb,’ dechreuodd eto. ‘Ac felly buodd
hi erioed. Toes ’na Geltiaid, a Rhufeiniaid a Feicings wedi boddi yno?
Tasai modd osgoi’r lle mi fyddan nhw wedi gneud hynny ganrifoedd yn ôl.
Ond mae sianel y Fenai’n mynd trwy’r diawl lle.
‘Tydi’r lle’n llawn ynysoedd a chreigiau! Rhai ohonyn nhw i’w gweld yn
iawn, a’r lleill o’r golwg. Mae gen ti batsys o ddŵr bas creigiog, a phyllau
tyfn reit wrth eu hymyl nhw. A bob tro mae hynny’n digwydd mi gei di
drobwll.
‘A’r peth arall am Bwll Ceris ydi bod y lle mor gul. Ar un ochor mae glannau
Arfon, a’r rheiny’n lannau creigiog ar y diawl. Yr ochor arall iddo mae’r
Cribiniau a Chraig y Pwll fel raselydd yn y dŵr. Bwlch cul sydd rhyngddyn
nhw, ac mae’r dŵr yn cyflymu fel uffar yn fanno. Ac ar ben bob dim mi fedri
di gael hwrdd sydyn o wynt weithiau trwy goed Arfon i achosi andros o
sheer i dy gwch.
‘Ti’n dallt am deitiau Afon Menai, cyw crinc? Bod y llanw’n dŵad i mewn o
gap Abermenai a’r un ochor? A heibio Ynys Seiriol ar yr ochor arall ac yn
cwarfod ei gilydd yn ochrau Bangor?
‘Da was. Y peth ydi bod y teitiau hefyd yn cymhlethu pethau. Dim ond ar
slac, ar ôl penllanw, yr ei di trwy Bwll Ceris, pan fydd ’na ddigon o ddŵr yn
y sianel i glirio’r creigiau, ond dim cerrynt i dynnu’n groes. A hyd yn oed
wedyn mae hi’n dynn. Ychydig funudau sy gen ti cyn i’r llanw droi. Ti’n
clywed, cyw crinc?
‘Dyna pam ydan ni mor bwysig,’ aeth yn ei flaen. ‘Y peilotiaid. Tydan ni
nabod Pwll Ceris ers cenedlaethau! Wedi’n magu i wybod lle i fynd a lle i
beidio, pryd i fynd a phryd i beidio, faint o dynfa ar long fydd yn cydweddu
efo’r llanw...’
Edrychais arno’n defnyddio bawd ei law dde i gywasgu’r baco ym
mhowlen ei bibell. A gwelais yr ôl du ar ei fawd pan aeth i’w boced i estyn
ei leitar. Sugnodd yn chwyrn wrth ei thanio, a’i fochau’n pantio ac yn llenwi
wrth dynnu’r mwg i mewn i’w geg.
‘Toedd y byd i gyd yn dibynnu arnan ni ar un adeg! Llongau mwya’r byd
yn dod trwy’r Fenai! Fasai’r ffernols heb neud yr un sentan ar eu cargos
hebddan ni...’
‘Mi oeddach chi’n uchel ei parch.’
‘Oeddach chi...?’ yn biwis.
Gostyngais fy ngolygon, a chanolbwyntio ar y twll rhwng esgid a gwadn
Janeiro. Trwy’r twll gwelwn gnawd noeth ei droed, ac fe’m cynhyrfwyd yn
rhyfedd. Pan godais fy ngolygon eto edrychai’r peilot tua’r môr.
‘Uchel ein parch? Oeddan! Ond rywfaint elwach? Dim! Dim gair o ddiolch!
Dim byd ond cildwrn gan gapteiniaid, a’r bai i gyd pan âi pethau’n giami...
‘Ond yr hyn sy’n bwysig i chdi ei wybod ydi bod ’nhad a ’nhaid wedi mynd
i’w beddau heb ddim i’w henw nhw, ond eu henw da. A neb yn eu coffáu
nhw heddiw ond y fi. Yn fan hyn. A mastiau’r iots fel trawstiau’n fy llygaid i.’
‘Dw innau yma hefyd!’
‘Wyt,’ meddai’r peilot yn araf.
Aeth ei wyneb yn rhychau i gyd, fel petai gwynt yn cynhyrfu’r môr. Roedd
ei geg yn gil agored, a’r bibell drom yn hongian yn llipa oddi ar ei wefus.
Tybed a oedd Janeiro ar fin dweud rhywbeth mawr?
Ond wrth i’r eiliadau basio aeth yr olwg arteithiol ar ei wyneb yn drech na
mi.
‘Dyna pam y rhoesoch chi’r gorau iddi?’
‘Ches i mo ’magu i beilota llongau pleser. Nid dyna pam y ces i systifficet
gan y Board of Trade!’
‘Ond torri’r traddodiad?’ daliais innau arno fo.
‘Mi gafodd ei dorri drostaf i!’ gwylltiodd y peilot. ‘A beth bynnag, toedd gen
i neb...’
‘Dysgwch fi!’
Gwelais Janeiro’n llyncu’i boer.
‘Mi liciwn i fod yn beilot,’ a phlygu ymlaen at ei lin.
Ond cododd Janeiro ar ei draed yn sydyn, a pheri i mi orfod cilio o’i ffordd.
‘Dydi’r peilot yn da i ddim heddiw, cyw crinc. Tydi’r Bar wedi siltio gormod i
adael llongau mawr trwodd!’
‘Ond methu dallt ydw i,’ a chodais innau fy llais er mwyn ei ddal rhag mynd
i mewn i’w dŷ, ‘pam na fasach chi’n defnyddio’ch gwybodaeth at bethau
eraill: syrfëo’r Fenai, neu osod peipiau ar ei thraws hi, neu hyd yn oed
sgwennu amdani... Mi fedar unrhyw un neud hyn!’
Ac wrth estyn fy mraich i gyfeirio at Bont yr Abar, mi wyddwn i mi fynd yn
rhy bell. Edrychodd Janeiro arnaf, a thorrodd ei eiriau fel ton oer drosom ni
ein dau.
‘Y bastad bach!’ ac aeth i mewn i’w dy.
Bûm yn aros dros hanner awr cyn y dychwelodd.
‘Mi ddeudodd rhywun eich bod chi ’di bod ym Mhwll Ceris.’
‘Pwy ddeudodd hynny?’ roedd y peilot yn dal yn ffyrnig.
‘Y llongwrs,’ amneidiais at y dafarn yr ochor draw i’r Abar. ‘Padi Gwyddal,
Sven a’r lleill.’
‘Ti ’di bod yn hel clecs efo’r rheiny? Welaist ti bod eu tinau nhw wedi
gwisgo wal y cei’n llyfn?’
Edrychais arno heb ddweud dim.
‘A be arall ddeudodd y meddgwn diog?’
‘Dim byd... Dim ond eich bod chi wedi bod yn y Swellies.’
‘Wel, fues i ddim,’ meddai Janeiro o’r diwedd. ‘Ond mi wn i be sy ’na.’
Ni ddaeth i eistedd y tro hwn.
‘A ddeuda’i ddim wrthach chdi, mêt, i chdi gael mynd at y ffernols acw i
chwerthin ar ’y mhen i.’
‘Faswn i byth...’
‘A beth bynnag, pam na ffeindi di allan dy hun? Siawns nad oes ’na lyfr yn
yr ysgol acw?’
‘Ddois i ddim yma i gael fy sbeitio,’ meddwn innau.
Stryffaglais i godi a mynd. Ond erbyn cyrraedd hanner ffordd i lawr y llwybr
roeddwn yn edifarhau. A phan na ddaeth chwip y rhaff ar fy nghoes, a
phan na chydiodd y ddolen a chlymu am fy ffêr, a phan na ddaeth plwc y
cwlwm i beri i mi ddisgyn eto, rhegais yn dawel.
Cyrhaeddais Bont yr Abar yn ddyn rhydd, a’m calon yn suddo.
Ond a minnau ar fin camu ar y bont caeodd y giatiau’n ddisymwth ac atal
fy ngham.
Trois yn ôl, a gweld Janeiro’n gwenu arnaf.
‘Byd arall sy ’na!’ galwodd wrth imi nesáu. ‘Byd anhygoel sy ’na yng
ngwaelod Pwll Ceris! Byd bob lliw, nad ydan ni’n gwybod dim amdano fo..!’
Bûm yno’n hir yn gwrando. Roedd yntau’n ei elfen yn sôn am greaduriaid
ysblennydd y Fenai. Soniodd, nid yn unig am gregyn llong, a chregyn
gleision, a chocos a gwymonach, ond am wlithod môr hefyd, a sgorpionau
môr a chimychiaid, corgimychiaid, crancod, crancod llygatgoch, abwydod
a chyllyll môr. Soniodd am lyffantod môr pigog ac am lyfrothod. Soniodd
am grystiau môr amryliw, am sbyngau oren, melyn a gwyrdd, am
anemonïau blodeuog o liwiau pinc a choch a phorffor, am anemonïau
pluog, ac am sêr gwaetgoch...
‘Does wybod sut y bydd hi bob dydd,’ meddai Janeiro. ‘Achos dydi’r byd ar
waelod Pwll Ceris byth yr un fath.’
Trodd ataf ac ailddechrau siarad, ond torrwyd ar ei draws gan sain aflafar
llong bleser yn galw ar geidwad y bont. Gwelais Janeiro’n crynu ac yn
tynnu ato. Yna cododd baglodd i mewn i’w dŷ.
Agorodd y bont a hwyliodd yr iot yn ddidramgwydd o borthladd Caernarfon
ac allan i’r Fenai fawr.
Caeodd y bont. Ystwyriais innau.
‘Mi fydd Mam wedi gneud cinio...’
‘Dy fam... ia, siŵr...’
‘Diolch i chi am yr holl wybodaeth.’
‘Ia,’ meddai Janeiro wedyn.
Daliais fy llaw allan iddo, ond ni chynigiodd Janeiro ei law yn ôl.
Roedd fy nhaith yn ôl dros yr Abar yn ddilyffethair. Ni chaeodd y giatiau
pan gyrhaeddais y bont. Ni chaeodd y giatiau pan nesais at ei hanner. Ni
chaeodd y giatiau pan gyrhaeddais yr ochr draw, a chamu oddi ar y bont i
wynebu porth mawr Tŵr yr Eryr.
Ni ddychwelais adref trwy’r Maes. Daliais i fynd, yn hytrach, ar hyd y
cei, heibio i’r Anglesey a thua Porth yr Aur, er mwyn cadw’r Fenai - a
Janeiro - o fewn fy ngolwg. Trois cyn mynd trwy Borth yr Aur i edrych dros
f’ysgwydd, a gweld y peilot yn ffrâm drws ei dŷ. Yn sefyll yno a’i olwg ar y
môr, a botymau arian ei gôt yn disgleirio fel goleudy yng ngwyll Coed Alun.
Codais fy llaw, ond ni’m cyfarchodd yn ôl.
Ni fûm yn ôl yn gweld Abram Janeiro Jones. Wn i ddim pam yn iawn. Yn
sicr, nid am iddo beidio â’m cyfarch cyn i mi ddiflannu trwy Borth yr Aur,
nac ychwaith am iddo alw enwau arnaf yn ei dymer.
Y gwir amdani yw i bethau eraill fynd â’m bryd dros yr wythnosau canlynol.
Arholiadau, yn anad dim. Cefais farc ardderchog - y gorau trwy Gymru
- am fy mhrosiect ymchwil. Ar fy mhenblwydd yn ddeunaw ganol Awst
derbyniais swm o arian a gadwyd i mi ers fy ngeni. Cyfrannodd mam
hithau ryw hyn a hyn, er mwyn fy ngalluogi i deithio i ‘weld y byd’.
Erbyn dychwelyd roedd hi’n bryd ei throi hi am y coleg, a minnau wedi
ennill fy lle yn adran daearyddiaeth coleg Lerpwl.
Ym mlwyddyn olaf fy ngradd y clywais am Janeiro wedyn, a thrwy mam y
digwyddodd hynny.
Daeth llythyr ganddi un bore yn fuan wedi’r Pasg. Nid oedd dim yn
anghyffredin yn hyn. Ysgrifennai ataf yn gyson yn holi sut oeddwn, ac
yn cynnwys pwt o newyddion am fywyd ein cymdogion yn y dref. Llythyr
tebyg oedd hwn. Ond wedi’i amgau yr oedd darn o’r Caernarfon and
Denbigh Herald.
Adroddiad tra manwl oedd yma ar longddrylliad a ddigwyddodd yn y Fenai
dros y Pasg. Anaml y clywn y newyddion y dyddiau hyn, a minnau mor
brysur yn adolygu. Cipiodd yr erthygl fy anadl.
Hen ffrigad 60-gwn oedd yr Indefatigable. Gwyddwn amdani’n iawn.
Llong ysgol, lle prentisid morwyr ifanc yng ngwyddor mordwyaeth a plane
geometry, a’u paratoi i yrfa ar y môr. Daethpwyd â hi i’r Fenai yn ystod yr
Ail Ryfel Byd i’w harbed rhag y cyrchoedd bomio yn Lerpwl. Yno, mewn
hafan heb fod ymhell o Blas Newydd, ar ochr orllewinol Bont Britannia, y
bu hi ers hynny, yn gartref ac yn ysgol i genedlaethau o gadéts.
Digwyddodd y ddamwain pan ddaeth yn bryd symud y llong yn ôl i’w
hadnewyddu a’i hatgyweirio yn noc sych Lerpwl. Nid oedd peiriant i’r
llong, a rhaid fyddai defnyddio mudiant naturiol y llif a grym dau dynfad i’w
thywys, a hynny’n peri bod y daith tua’r dwyrain yn llawer mwy mentrus
na’r daith tua’r gorllewin hanner can mlynedd ynghynt.. Nid ar chwarae
bach yr eid â’r Indefatigable trwy’r filltir enbyd honno rhwng Pont Britannia
a Phont y Borth, a’r llif yn troi’n eu herbyn.
Roedd gofyn cynllunio gofalus, ac yn anad dim brofiad ac arbenigedd
ynghylch y sianel a symudiadau cymhleth y llanw a’r trai. Testun syndod
a llawenydd i bawb, meddai’r Herald, oedd bod peilot mwyaf profiadol
y Fenai, Abram Janeiro Jones, wedi cytuno i droedio’r môr unwaith eto,
a llywio’r llong trwy’r Fenai ar y cyd â’i Chapten Arolygol, Capten J.E.A.
Quinn.
Ar ôl ymgynghori â’r Dr Knight yng Ngwylfa Bidston penderfynodd y
pwyllgor symud yr Indefatigable ar lanw uchel y Gwanwyn.
Gofynnodd y peilot am dynfad arall, rhag ofn. Gwrthododd Capten Quinn,
gan ddweud y byddai dau dynfad yn hen ddigon i ‘waltsio’ trwodd â’r llong.
Dydd Sadwrn, Ebrill 14 oedd y diwrnod mawr, sef yr ail o dri diwrnod
pan fyddai teitiau’r Gwanwyn ar eu huchaf. Byddai’n rhaid aros am slac
y penllanw cyn mynd i mewn i Bwll Ceris, a dim ond rhyw bum munud o
slac a geid ar deitiau uchel fel hyn, cyn i’r llif droi’n ôl tua’r gorllewin yn eu
herbyn.
Am 0820 cychwynnodd yr Indefatigable ar ei thaith, ac am 0845 daeth
i orffwys i’r gorllewin o Bont Britannia. Yma câi ei dal yn ei lle gan y
tynfadau i aros ei thro cyn mynd i mewn i Bwll Ceris am 0920.
Roedd y gwynt yn ysgafn i gymhedrol o’r gogledd-orllewin. Byddai’r gwynt
hwn yn achosi slac cynharach, a dywedodd y peilot y dylid bod yn mynd i
mewn i Bwll Ceris yn gynt na 0920. Anghytunai Capten Quinn. Mynnodd
gadw at yr amserlen wreiddiol.
Aeth y symud rhagddo am 0915. Ond anodd oedd codi cyflymder llong o
faint yr Indefatigable, ac roedd yn 0923 erbyn mynd o dan Bont Britannia.
Aethpwyd heibio i greigiau’r Cribiniau yn ddiogel, ond erbyn dod at Ynys
Gored Goch roedd y llif eisoes wedi troi tua’r gorllewin ac yn gyrru’n
chwyrn yn eu herbyn. Mynnodd y peilot eu bod yn troi’n ôl. Gwrthododd
Capten Quinn eto. Roedd rhaid mynd trwodd ar y llanw hwn, a miloedd a
bunnoedd yn y fantol.
Erbyn cyrraedd Craig y Pwll roedd y llif yn eu herbyn wedi cyrraedd
cyflymder o ddwy not, a’r llong yn methu’n lân â mynd rhagddi. Daeth yn
amlwg na fyddai’r llong yn cyrraedd Pont y Borth. Mynnodd y peilot eto
droi’n ôl, ond ni dderbyniodd Quinn mo’r cyngor.
Erbyn hyn roedd yr Indefatigable yn cael ei lluchio i bob ochr gan y llif
grymus. Am 1015 galwyd ar dynfad y starn i ddod i helpu tynfad y tu
blaen i dynnu’r llong trwodd. Llwyddodd hyn am beth amser. Ond pan
ddaethpwyd at greigiau’r Platters fe siglwyd starbord yr Indefatigable gan
drolif ffyrnig. Ni lwyddodd y tynfadau i ymateb a gwrthweithio’r siglad.
Torrodd cadwyn un ohonynt a’i ddatgysylltu. A dyna pryd y trawodd yr
Indefatigable y creigiau.
Ofer fu pob ymdrech i’w thynnu’n ôl i’r Fenai pan ddaeth llanw’r prynhawn.
Llifodd y dŵr trwy ffenestri bwrdd isaf y starn, a’i thynnu i lawr. Erbyn nos
roedd yr Indefatigable wedi’i dryllio gan greigiau a theitiau grymus Pwll
Ceris.
Sefydlwyd Is-bwyllgor Ymholiadol i ymchwilio i’r ‘ddamwain’, meddai’r
Herald, ac roedd hwnnw i adrodd i’r Llys Ymholiad. Ar hyn o bryd, fodd
bynnag, meddai’r Herald, y prif gonsyrn oedd y ffaith na welwyd y peilot,
Abram Janeiro Jones, ers diwrnod y drylliad. Roedd ei fwthyn yng
Nghaernarfon yn wag.
Roedd sôn i rywun ei weld yn sefyll dan gadwyni Pont y Borth. Gofynnodd
yr Herald i unrhyw un oedd ag unrhyw wybodaeth gysylltu â’r heddlu.
Yn y coleg yn Lerpwl llifodd geiriau’r erthygl yn un wrth i ddŵr hallt y Fenai
lenwi fy llygaid. Rhoddais fy mhen i lawr a gadael i’r dagrau lifo am y peilot
a fu fel tad i mi. Toeddwn i wedi treulio fy mhlentyndod cyfan yn ei wydd?
Yn ystod cyfnod f’arholiadau gradd breuddwydiais bob nos am y Fenai.
Am adael y Maes a rowndio’r castell er mwyn cyrraedd y cei. Am fynd i
gyfarch y llongwyr wrth dafarn yr Anglesey, ac am eu gweld yn amneidio
tua Phont yr Abar oedd yn hanner agored. Roedd bwthyn y Ceidwad
yn wag, a phan drown yn ôl atynt fe’u gwelwn yn chwerthin i mewn i’w
gwydrau peint.
Rhedais bob nos hyd lannau ansad Fenai yn chwilio amdanat, Janeiro,
ac yn galw dy enw yn swn galarnadu pïod y môr. Heibio i Waterloo Port, a
Llanfair-is-gaer, a chanolfan chwaraeon Plas Menai; heibio i’r Felinheli a
Phont Britannia, a heibio i’r creigiau geirwon. Cyn plymio i’r dŵr ym Mhwll
Ceris, i ganol dy greaduriaid anhygoel. Roedd rhyw drobwll yn fy sugno.
Ildiwn iddo bob tro, ond ni chyrhaeddwn y gwaelod byth.
Ar y trên adref o Lerpwl, a minnau’n mynd hyd yr arfordir, synfyfyriais am
symudiadau cymhleth teitiau Afon Menai ac am batrwm arbennig y bwiau
coch a gwyrdd mewn afon ac iddi ddwy geg. A rhegais y peilot am na
ddysgodd i mi ei grefft.
Braf yw bod eto ar lannau Afon Menai, a’r môr ddwywaith bob diwrnod yn
llenwi ac yn gwagio’r hafn sy’n creu’r ffin rhwng Môn ac Arfon. Cofiaf am
y cyfan a ddygodd y Fenai i’r dref hynafol hon, ac am y cyfan a ddygodd
oddi yma.
Ond pan ddaw diwedd yr haf bydd yn rhaid i mi ffarwelio â hi eto a mynd
i chwilio gwaith tua’r dwyrain. Fy mwriad yw gadael yn ystod y slac wedi
penllanw, a dim ond ychydig funudau fydd gennyf cyn i’r llif droi eto tua’r
gorllewin. Nid wyf am iddo fy nhynnu’n ôl tuag at fwlch Abermenai. Y bwlch
cul hwnnw y mae llanw a thrai’r Iwerydd wedi cafnu ei waelod yn bydew
dwfn.