Mae’n arwain i’r môr, mae’n arwain i’r môr, mae’n arwain i’r môr o hyd…
Mim Twm Llai
Dw i’n cofio’r haf hwnnw. Yr haf cyn i mywyd i newid. Yr haf cyn iddo fe
ddod i’m byd. Haf gwyntog a wnaeth i mi aeddfedu. Chwythodd fi yn wallt
ac yn groen i gyd.
Dim ond dechrau dysgu byw yn y mileniwm newydd oedden ni, ond
rywffordd, roedden ni’n anelu am rywle newydd.
***
Yn gynharach yn y gwanwyn dwedodd hi wrthai y byddai’n gweld cregyn
pan fyddai’n ymweld â’i mam-gu. Cregyn plentyndod ei mam-gu. Cregyn
o lan y môr, fel gemau ymysg y cerrigos llwyd a gwyn yn yr ardd ffrynt.
Dywedodd eu bod nhw’n gorwedd ar y darn tir rhwng y ffens a thraed ei
mam-gu. Traed oedd wedi eu cuddio gan sliperi bach porffor. Sliperi porffor
fel blodau’r crocws wrth ymyl y cregyn bach calch-wyn.
Cregyn ar dir sych … roedd yma bosibilrwydd fod yr ardd fechan hon wedi
bod o dan ddŵr ar un adeg, fel y gallasai fod eto’n ddigon rhwydd …
Oherwydd roedd mam-gu fy ffrind yn caru’r môr, er nad oedd hi’n byw wrth
ei ymyl mwyach. Roedd hi mor bell ag yr oedd modd bod oddi wrth y môr
erbyn y diwedd. Trigai wrth droed mynydd mawr yng nghanolbarth Cymru.
Mor bell o’r môr ag y gallwch ddychmygu. Ond ei bod hi wedi ei magu ar
lan y môr, mewn man lle roedd y tir yn cwrdd â’r lli yn y De Orllewin. Man
lle roedd yr awyr a’r môr yn cyd-blethu. Man lle roedd y tonnau’n oedi …
cyn torri ar hyd y traeth.
Pan ry’ch chi wedi eich magu wrth ymyl y môr, fe fydd y dŵr bob tro’n
rhedeg drwyddoch chi. O leia, dyna ddwedodd fy ffrind. Ac felly, oedd,
roedd halen ar dafod ei mam-gu o’r eiliad gynta iddi ddod o groth ei mam.
Roedd yn ei gwallt hefyd. Yn hallt ac yn dywodlyd. Byddai dŵr y môr yn
treiddio drwy bopeth.
Ac un noson, wrth i ni aros i’w shifft hi ddechrau – dyma hi’n adrodd stori
i fi. Soniodd fy ffrind fod ei mam-gu yn dod â’r môr i’r tir. Byddai’n canu yn
Gymraeg i’r cregyn bob bore, yng nghysgod y mynydd mawr. Mewn man
lle roedd y tir yn eu llyncu. Ond roedd hi’n dal i ganu. Ac wrth iddi ganu,
roedd ei hatgofion hi’n deffro’n fyw nes gellid taeru fod ton o ddŵr y môr
yn torri ar dir sych. Dyna oedd cryfder ei dychymyg hi.
***
Dywedodd fy ffrind wrthai ei bod hi ei hun yn mwynhau gwisgo clustdlysau
tsiep. Dynes yr eiliad, yn ei geiriau hi. Dynes tsiep hyd yn oed. Ac
roedd hi’n hoffi hyn.
“Weithie, ma’ pethe tsiep yn gwneud i ti deimlo’n fyw,” meddai, gan dowlu
ei gwallt yn ôl cyn clymu’r cyfan mewn cwlwm gyda bobl-gwallt pinc,
“wyt ti’n dod am dro yn y car neu ddim? Awn ni i weld y môr!” Roedd ei
Saesneg hi’n swnio’n glogyrnaidd. Roedd ôl Cymraeg drosto i gyd. Yn
draed brain.
Soniais wrthi mod i’n meddwl fod pobl ifanc yn galw mynd am dro yn y car
yn road trip y dyddie ‘ma ac fe chwarddodd hi mor galed nes i mi weld ei
thonsils hi unwaith, ac eto drachefn. O leia, dyna dw i’n meddwl welais i.
Ac felly fe gytunais i fynd. Yn ddannedd ac yn wefusau i gyd. I weld y môr.
***
Gofynnodd a fyddai ots gen i eistedd yng nghefn y car. Soniodd ei bod
hi’n mwynhau’r rhyddid o beidio cael neb wrth ei hymyl yn y sedd flaen.
Yna, siaradodd hi am ei phenderfyniad i fod yn nyrs. Dwedodd bod y
gwaith yn ei blino hi gymaint fel na allai feddwl am ddim byd ar ddiwedd
dydd oherwydd pwysau’r blinder. Ac roedd hi’n hoffi hyn. Soniodd am y
cyfnodau pan fyddai ei hysgyfaint wedi blino hyd yn oed. Hoffai hynny’n
fawr, meddai.
Holodd hi ddim pam fy mod i wedi dewis dilyn y cwrs. Dim ond gwrando
wnes i, a gadael fy hunan ar ôl.
Efallai mai dyna pam roedd yr holl beth yn teimlo mor hudol. Y teimlad
hwnnw o yrru i ffwrdd oddi wrthot ti dy hunan. Roeddwn i’n cael fy ailgreu.
Yng nghefn y Ford Focus lliw teal. Ac roeddwn i’n falch o’r cyfle. Yn
falch o gael dianc oddi wrtho fe a’i amrannau hir. Dw i’n dal i gofio pa mor
bryderus a llawn tensiwn oeddwn i. Yr unig beth oedd gen i’n weddill oedd
fy nghroen. Fy nghynfas croen oedd yn fy ngadw i’n un darn. Yn cadw fy
ymysgaroedd rhag gwasgaru i bob cyfeiriad.
***
Tynnais fy nghorff ar hyd y sedd gefn, a theimlo fy asgwrn cefn yn dod
yn gyfarwydd gyda defnydd y set. Dechreuais fwynhau’r ffaith ei bod
hi’n mynd a fi i weld y wlad. Y Gymru hon nad oeddwn i’n ei hadnabod.
Dim ond fy Nghymoedd i oedd yn gyfarwydd i mi. Pobl fy Nghymoedd i.
Roedd hi fel petai yn synnu at hyn. Roedd hi’n cymryd yr holl gysyniad o
Gymru’n ganiataol, gwawdiodd hi, wrth fwrw golwg ar ei lip-gloss yn nrych
y car wrth yrru.
***
“Fydd rhaid i fi alw. Fydd rhaid i fi.” Roedd ei llais hi’n gryg, a’r celwydd i’w
glywed yn ei haddewid. Roedd e’n gynnil, ond gallwn synhwyro’r peth. “Fe
wna i. Caerdydd. Dyw Caerdydd ddim yn bell iawn … lle ydw i nawr? Wedi
mynd am drip bach. I lan y môr. Ie, wy’n gwbod! Neis … Na. Fyddwn ni
ddim yn galw heibio … Duw, dw i’n sori.”
A dwedodd y llais ar yr ochr arall wrthi am beidio a becso. Dwedodd wrthi i
fwynhau ei bywyd. Ond roeddwn i’n gwybod ein bod ni mewn maes parcio
nid nepell o’i chartref hi. Ryw hanner awr i ffwrdd.
Sut oedd Caerdydd ta beth, holodd ei mam-gu wedyn. Roedd pawb fel
petaen nhw’n mynd yno’r dyddiau hyn.
“O, mae’n oce, chi’n gwbod. Wel, wy’n lico Caerdydd. A gweud y gwir,
wy yn lico’r lle. Licen i setlo ‘ma. Os ga i wr, ondyfe Mam-gu …!” ac fe
chwarddodd y ddwy. Roedd ei mam-gu hi fel petai hi’n deall yn well nag
unrhyw fenyw. Yn fwy, os rhywbeth. Ac yn sydyn, daeth ton o genfigen
drosta i. Dechreuais deimlo’n hollol genfigennus o’r ffaith ei bod hi’n
berchen ar garthen Cymru fel hyn. Y bobl roedd hon yn nabod. Y ffordd
roedd hon yn gweld ac yn anadlu. Y ffordd roedd hi’n siarad gyda’i mamgu,
hyd yn oed. Llyncodd hyn fi a thorrodd rhyw densiwn annymunol dros
fy nghefn yn binnau bach i gyd.
“Roedd e’n swnio’n wahanol, y Gymraeg roeddet ti’n siarad gyda dy famgu,”
meddwn i gan wneud twll mewn cylch bach o ffoil gyda fy ngwelltyn
gwyn miniog. Roedd fy nhraed yn noeth ar sedd-ôl y car.
“Shwt ddiawl fyddet ti’n sylwi ar hynny? Dwyt ti’m yn siarad Cymraeg! Ond
ti’n iawn, cofia. Dyw hi ddim yn deall fy siort i o Gymraeg,” ac fel lifodd
squash cwrens duon yn oer fel iâ dros fy nhafod cynnes, “Cymraeg iawn
yw ‘i Chymraeg hi.” Yfais yn dawel, a rhythu.
“Beth am nôl chips,” meddai wedyn gan wthio’r allwedd i’r twll a’i droi.
Mwmial wnes i, cytuno’n dawel.
“Sdim ots ‘da fi os wyt ti eisiau galw gyda dy fam-gu …” dw i’n cofio cynnig,
rhag ofn mai meddwl amdana i oedd hi. Efallai ei bod hi’n becso nad
oeddwn i’n awyddus i ymweld.
Ond fe wrthododd fy nghynnig. A beth bynnag, doedd dim amser gyda ni,
meddai hi …
***
Pan oedden ni’n ddwfn yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin, dywedodd nad
oedden ni’n bell iawn o lle’r oedd hi wedi ei magu. Ddim yn bell o wreiddiau
ei phobl hi ei hun. Ddim yn bell o’r acen, a’r pethau y gwyddai hi amdanynt
yn iawn. Ddim ymhell o’r pethau ddysgodd hi cyn iddi wybod beth oedd
dysgu. Ond ei bod hi’n caru Caerdydd, roedd hi am wneud hynny’n glir. A’i
bod hi’n gallu bod yn hi ei hun yng Nghaerdydd. Yn fodern ac yn newydd.
Ac mai dyna oedd y drafferth gyda phethau’r dyddiau hyn.
“Pam na alli di fod yn ti dy hunan yn dy ardal enedigol?” ac fe wfftiodd
hi hyn a chario mlaen i yrru. Roedd hi wedi tynnu CD Carole King o’r
chwaraewr erbyn hynny, ac roeddwn i’n falch iawn. Roedd yr holl beth yn
mynd ar fy nerfau. Roedd y gryno ddisg hon wedi cael ei chwarae ymhob
ffordd. Roeddwn i wedi gwrando arni o bob ongl posib.
Syllais arni drwy’r drych. Y drych arian a’i hwyneb hi. Roedd hi’n disgleirio.
Dw i’n gallu cofio pa mor brydferth roedd hi’n edrych. Ac fe syllais arni,
syrthio i mewn iddi. Doeddwn i ddim yno mwyach. Bron iawn mai dim
ond hi oedd yno o hynny mlaen. Hi, mewn car, yn gyrru tuag at y môr. Dw
i’n gallu cofio ei chroen hi. Roedd ei chroen hi yn ddigon i wneud i mi fod
eisiau rhoi’r ffidil yn y to. Ei chroen tryloyw hi. Yn gadael i mi weld y tu fewn
iddi’n gweithio i gyd, fel crombil cloc.
Ar ôl ychydig o dawelwch, soniodd fod ei holl ffrindiau nad oedd wedi cael
plant yn un-ar-bymtheg wedi symud i Gaerdydd i fyw hefyd. Doeddwn i
ddim hyd yn oed yn cofio mod i wedi gofyn y cwestiwn, ond roedd hi fel
petai hi’n teimlo’n euog am y peth. Dwedodd, petai hi byth yn cael plant, y
byddai hi am ddod adre’n ôl, a’u magu nhw’n iawn. Soniodd nad oedd hi’n
hoff iawn o acen Caerdydd chwaith. Dw i’n cofio gwneud wyneb tîn-gafr yn
y sedd gefn a chodi fy aeliau. Ond welodd hi mohona i’n gwneud.
A dyna pryd ddechreuodd hi wylo.
***
“Nath y bastard yna nghuro i’n ddu-las,” meddai, gan eistedd ar erchwyn
ei gwely yn y lle gwely-a-brecwast, “saethodd e fwled i mhen i.” Mewn
gwirionedd, doedd hi ddim wedi profi dim mwy na’r hyn roedd llawer iawn o
bobl wedi ei brofi ond ei bod hi’n llwyddo gwneud iddo deimlo mor amrwd,
mor real. Es i ati i wneud coffi du i ni wedi hynny. Chyffyrddais i ddim yn y
carton bach o laeth UHT oedd wrth ymyl y tegell.
Ond doedd dim pall ar ei chrio hi.
Dw i dal ddim yn siwr hyd y dydd heddiw a oedd ots ganddi pwy oedd yn
gwrando arni. Cynigais goffi iddi, ond fe wthiodd fy llaw i i ffwrdd. Dwi’n
cofio fel petai’n ddoe. Cwpan gwyn, a choffi du yn nofio o gwmpas ynddo.
Yr hylif yn dod yn ofnadwy o agos at yr ymyl ond byth yn arllwys o’r cwpan.
“A tishe gwbod be wedodd e wrtha i? Tishe gwbod be wedodd e odd yn
bod arnon ni?” Codais fy ysgwyddau wrth iddi edrych arna i. Ei hwyneb yn
wlyb stecs. Mascara wedi rhedeg i bob man. “Dywedodd e na ddyliwn i
fod wedi ymgolli ynddo fe fel wnes i. Wnes i drio diflannu ynddo fe, dyna
beth ddwedodd e. Elli di gredu? Achos, be ar wyneb daear ma’ rhywbeth
felly fod i feddwl? Pa fath o beth stiwpid yw ‘na i ffycin ddweud?” Codais
fy ysgwyddau unwaith yn rhagor.
Ac yna, fe beidiodd y crio. Fel pe na bai hi wedi profi tristwch erioed yn ei
bywyd.
“Twel, allen i wedi bod yn ddoctor. Hynny yw, wy’n ddigon clyfar ti’n gweld
… ond do’n i byth eisiau’r cyfrifoldeb. Cyfrifoldeb – mae’n ‘yn lladd i hyd
yn oed meddwl am y peth. Dw i’n siwr galle jyst meddwl am y peth dy
ladd di weithie. Ti’m yn meddwl?”
“Allen i wedi bod yn nyrs,” meddwn i, ond fe drodd hi ei phen i’r ochr fel
petawn i wedi dweud rhywbeth nad oedd yn gwneud synnwyr o fath yn y
byd. Wrth gwrs y gallwn i, roeddwn i ar fin cymhwyso.
Ond hyd y dydd heddiw, dw i’n gwybod yn union beth roeddwn i’n ei
feddwl, a dyna’n union roeddwn i wedi bwriadu ei ddweud hefyd.
A dweud y gwir, o gofio’n ôl at y foment honno nawr, dw i’n meddwl mai
dyna’r eiliad wnes i ddechrau ei chasáu hi.
***
Ac felly mae’n rhaid mai ar yr arfordir, ddim yn bell o Ddinbych-y-Pysgod y
cafodd hi’r alwad ffôn.
Ond cyn i’w ffôn ddechrau canu yn fy mhen, soniais i mod i’n meddwl fod
y môr yn brydferth.
“Nid dyma’r môr,” meddai’n ddi-fater, wrth i’r ffôn ddechrau canu. Doedd
ganddi ddim bwriad ateb nes ei bod hi wedi gorffen y frawddeg, “bydd
rhaid i ti aros ychydig, cyn y byddi di’n gallu gweld y môr ar ‘i ore …”
Gwyliais hi’n siarad gyda’i mam, wrth i’r haul ddisgleirio ar ei thrwyn hi.
Gwyliais ei hymarweddiad hi’n newid. Sylwais ar ei gwefusau hi’n pwnio
gyda gwaed. Syllais arni’n codi ei hewinedd i’w cheg a’u cnoi nhw fesul
un. Roedd hi’n gwbl amhosibl deall am beth roedd hi’n siarad tro ‘ma.
Doedd hi ddim yn dweud ryw lawer. Dyma fi’n troi fy mhen gan geisio rhoi
ychydig o breifatrwydd iddi.
Ar ôl tipyn, gorffennodd yr alwad.
“Mam oedd yno,” meddai, gan sugno ar ei gwefus. Roedd hi’n amlwg
yn dal i bendroni wrth siarad gyda fi. “Mam-gu. Ma Anti Val wedi gorfod
mynd i aros gyda hi am sbel.”
Eglurodd fod y teulu i gyd yn poeni amdani am fod Idris, ei chymydog,
wedi gweld Mam-gu yn crwydro yn yr ardd gefn ganol nos. Roedd e
wedi ffonio’r teulu. Yn ôl y sôn, roedd hi’n sefyll yn ei dillad nos, yn taflu
gwialen bysgota dros wair y lawnt. Yn crafu’r bachyn yn erbyn y gwair
gwyrdd. Yn tynnu’r wialen yn ôl tuag ati hefyd.
Roedd hi’n pysgota ar dir sych, meddai fy nghyfaill dro ar ôl tro. Yn
pysgota ar dir sych.
A’r cwbwl fedrwn i ei wneud oedd gwrando.
Dw i’n cofio i ni fynd lawr i’r traeth wedyn. Ac fe welais i gragen a’i
chasglu. Ar ôl tipyn, fe fentrais ei gosod wrth fy nghlust. Dim ond cragen
fechan oedd hi, ond roedd hi’n dal i fedru sibrwd geiriau’r môr i mi. A dw
i’n siwr i mi glywed ei mam-gu hi’n canu hefyd. Yng nghanol y cyfan.
Geiriau Cymraeg. Fel iaith o dramor. Yn sibrwd i mi.
***
Y peth rhyfedd oedd iddi gario mlaen wedi hynny, fel petai dim byd wedi
digwydd. Am ychydig o leia. Gyrron ni ar hyd arfordir Sir Benfro ac fe
sicrhaodd hi fi nad oedd hi’n hannu o’r ardal hon. Roedd yna ddwy Sir
Benfro. Ie, dyna ddwedodd hi.
Ac felly dyma ni’n gwrando ar gerddoriaeth o’r siartie. Ceisio meddwl
yn tsiep a hel meddyliau arwynebol. Gadael i’r daith ein hail-eni ni eto.
Gadael i’r cyflymder a’r awyr iach ar ein hwynebau wneud i ni feddwl ein
bod ni yn America. Ceisio dychmygu nad oedden ni yma o gwbl.
“Rhyw,” medda hi wrtha i, wrth i’r car yrru drwy’r pentrefi bach tuag at fannau
mwyaf gorllewinol y lle yma a elwir yn Gymru. “Dwed wrtha i am y sex gorau
rwyt ti erioed wedi gael! Der mlan! Dwi moyn clywed! Pob un eiliad baby!”
ac felly fe wnes i, nes ei fod yn well nag unrhywbeth i mi erioed ei brofi
mewn gwirionedd. Yr unig beth fedrwn i gofio oedd y tro dwethaf. Gyda fe. A’i
amrannau ar fy moch. Ein cariad rhyfedd ni.
“Dy dro di yw e nawr!” meddwn i, “elli di ddim disgwyl cael get-awê! Der
mlan, mas â fe! Dw i’n glustiau i gyd!” A dyma hi’n dechrau gwichian
chwerthin. Dywedodd ei bod hi’n hoffi chwarae rôl. Ei bod hi’n hoffi gwisgo
i fyny fel rhywun arall, a cheisio actio fel y dylai actio wrth gael rhyw.
Dychmygu ei bod hi yn Llundain neu rywle. Siarad Saesneg. Dyna ddwedodd
hi roedd hi’n ei wneud, ta beth.
Ac yna, wedi hynny, roedd hi ar dân eisiau i mi danio sigaret iddi. Do’n
i ddim yn sylweddoli ei bod hi’n smygu hyd yn oed. Ond doedd hi ddim
mewn gwirionedd. Roedd hi’n cadw paced yn y drâr-cadw-menyg yn y car,
a hynny jyst rhag ofn. Ar gyfer argyfyngau, gwyliau a chariadon golygus heb
galonnau.
Ac felly taniais sigaret iddi.
Wrth iddi smygu, eglurodd. Roedd hi wedi ffansïo sigaret ar y pnawn hwnnw
am ei bod hi eisiau dychmygu mai ni oedd ‘Thelma and Louise’. Ond nad
oedden ni’n mynd i wneud unrhywbeth mor ddramatig a gyrru dros glogwyn.
Roedden ni’n wahanol iawn i ‘Thelma and Louise’, meddai wrth lyncu mwg,
am ein bod ni’n gwneud dim ond mynd i weld y môr cyn anelu adre am
Gaerdydd. Ac roedd hynny’n ddigon da iddi hi.
***
A phan gyrhaeddon ni yno, roeddwn i’n deall.
Blancedi glas yn cyhwfan. Diamwntiau’r haul ar y tonnau. Y môr hallt wedi ei
daenu o’n blaenau fel petai modd i chi ei lowcio’n un. Fel rhyw syched sy’n
dod drosoch chi wrth garu yn y gwely. Fel rhyw hiraeth am rywbeth ry’ch chi
wedi ei golli. Hiraeth go iawn, hiraeth cyhyrog. Yn wlyb, ond wedi ei gorlannu.
A neb ond ni’n dwy ar y traeth bach.
“Fan hyn ma nheulu i’n perthyn,” meddai hi yn ysgafn i gyd cyn cwympo yn ôl
i’r tywod gan chwerthin a chau ei llygaid.
Eisteddais innau gan gofleidio fy mhengliniau, tra’n meddwl pam nad
oedd fy mam wedi dod â fi i rywle fel hyn. Yna, dechreuais feddwl a oedd
fy mrawd erioed wedi gweld y môr cyn iddo farw. Meddwl wedyn a oedd
ganddo atgofion o’r môr yn ei ben bychan cyn iddo adael fan hyn am rywle
newydd.
A theimlais rhyw hiraeth wrth eistedd yno a gweld y dŵr yn chwarae
mig gyda’r gorwel. Rhyw ddeisyfiad am rywbeth nad oedd modd estyn
amdano. Angen am rywbeth nad oeddwn i wedi ei angen o’r blaen.
Ychydig a wyddwn i fod yna fachgen bach yn gorwedd y tu mewn i mi wrth
i mi eistedd yno.
A dyna pryd syrthiodd hi i gysgu.
Gwyliais hi’n anadlu’n ddwfn. Eisteddais yno, yn disgwyl ar ei hôl hi a’r aer
oer yn bwrw cefn fy llwnc gan fygwth atal fy anadl am byth. Tynnais y gragen
fechan o’m poced a gwrando, gan feddwl eto am y cregyn yng ngardd ei
mam-gu. Ymhell bell o’r man lle ddaethon nhw. Hewlydd i ffwrdd o lan y môr.
Ystwyriodd fy ffrind wrth gysgu ac ar ôl tipyn, gallwn ddweud ei bod hi’n
breuddwydio. Roedd e’n fy atgoffa i o wylio Gramps ar brynhawn diwrnod
Nadolig yn ôl yn Bedwas. Y ffordd roedd ei llygaid hi’n symud, a’r modd
roedd siâp ei gwefusau hi’n adrodd cyfrinachau cynnil. Ystwyriodd eto,
doedd hi ddim yn breuddwydio rhagor. Roedd rhywbeth ar ei meddwl.
Eisteddodd i fyny fel bollt cyn ceisio shiglo’r meddyliau o’i meddwl. Ceisiodd
wthio’r hunllef yn ôl i’r cysgodion.
Chaf i fyth wybod beth oedd ei meddyliau y diwrnod hwnnw.
Yr unig beth dw i yn ei wybod yw nad oedd dim yr un fath wedi hynny.
***
Roedd y daith yn ôl yn un rhyfedd ar y naw. Aethon ni ar hyd ffordd wahanol.
Gyrru yn ddwfn i mewn i’r tir. Fe wnaeth hi hyd yn oed holi a fyddai ots gen
i ein bod ni’n galw gyda’i mam-gu ar y ffordd adref. Ond ches i ddim mynd
i mewn. Fyswn i ddim wedi deall dim, dyna ddwedodd hi. Doeddwn i ddim
yn siarad Cymraeg, a gan bod ei mam-gu hi wedi drysu’n ddiweddar beth
bynnag, efallai y byddai’n well pe bawn i’n aros yn y car ac yn gwrando ar
ychydig o gerddoriaeth.
Ond tra roedd hi’n ymweld, fe ddringais o’r car am eiliad. Dim ond i fwrw
golwg ar y cregyn yng ngardd ei mam-gu. Y rhai roeddwn i wedi bod yn eu
dychmygu nhw gyhyd. A dyna lle’r oedden nhw! Yn wyn ac yn bur ymysg y
cerrig.
Ac yna i ffwrdd â ni eto, gan yrru yn ôl i Gaerdydd ar ras. Ond roedd
pethau’n wahanol tro ‘ma. Roedd hi’n dawel. A dweud y gwir, roedd hi mor
dawel nes fy mod i’n gwybod ei bod hi’n brwydro gyda hi ei hunan yn lle
siarad gyda fi. Mae’r rhan fwyaf o seibiau a thawelwch yn ddigon derbyniol.
Mae pobl yn mwmial neu’n anadlu mewn modd sy’n gadael i chi ddeall fod
y tawelwch hwnnw’n cynnig cysur. Ond mae rhai seibiau a thawelwch yn
drwm gyda meddyliau. Dw i ddim yn siwr iawn sut mae synhwyro’r peth,
ond mae modd gwneud. A dyna sut roedd ei thawelwch hi yn teimlo i mi.
Y cwbwl wyddwn i oedd fod ein dealltwriaeth ni ar chwâl. Doedden ni ddim
yn anadlu mewn cytgord, er y byddai’n rhaid i ni dreulio oriau gyda’n gilydd
yn y car. Rhyw diaspora meddyliol, er nad oedd gen i’n bersonol ddim byd i
wneud â’r peth.
***
Y peth dwethaf glywais i amdani oedd ei bod hi’n priodi rhyw ddoctor o
Plymouth. Dyn golygus gyda llond ceg o ddannedd. Ac roedd hi’n dal i
fyw yng Nghaerdydd – yn fodern ac yn newydd. Clywais fod ei ffrog hi’n
wyn fel perlau ac i’w chroen tryloyw hi ddisgleirio yn yr haul ar y diwrnod
mawr. A dw i’n cofio meddwl tybed a fuodd ei mam-gu hi fyw i weld y
diwrnod. Mae’n debyg na ddylai’r peth fod wedi bod ar fy meddwl i o gwbl,
ond roeddwn i wastad yn ffeindio fy hunan yn myfyrio am y peth. Byddai’r
gragen fechan ar y dressing-table yn fy atgoffa rownd y rîl.
Ac fe gyrhaeddodd fy machgen bach, er nad oedd pawb yn ei groesawu.
Ond roeddwn i’n falch o’i weld yn dod i’r byd. Wrth gwrs, roedd fy ffrind wedi
hen fynd erbyn hynny. Wyddai hi ddim hyd heddiw fod tri ohonom ar y trip
hwnnw i lan y môr, a does gen i yfflon o ots am hynny. Dw i wedi dysgu nad
oes yn rhaid i ti ddweud pethau wrth bobl eraill er mwyn iddynt fod yn wir. A
beth bynnag, mae gen i fy machgen. Ac felly mae dau ohonom ni nawr. Yn
ein cartref yn Bedwas. Ac mae e’n fy addysgu i, y bachgen bach hwn.
Yn ddiweddar, fe berodd y bachgen bach hwn i mi feddwl am fam-gu fy
ffrind. Ac am y cregyn yn ei gardd ac am ein trip rhyfedd ni at y môr. Dim
ond yn ystod y dyddiau dwetha, daeth adre o’r ysgol a dweud mai’r gair
Cymraeg am the sea oedd, y môr. Edrychai wedi synnu nad oeddwn i’n
gwybod y fath air syml, am fod y geiriau hyn yn perthyn iddo fe. Ac roedd
e’n meddwl eu bod nhw’n perthyn i mi hefyd.
A dw i’n cofio meddwl mai nid the sea oedd y gair i ddisgrifio’r olygfa welais
i y diwrnod hwnnw. Yr hyn oedd ar goll o’r olygfa a’r hyn gododd yr hiraeth
mawr hwnnw arna i oedd ‘y môr’. Ac i feddwl fod yna fachgen y tu mewn i mi
oedd yn gwybod hynny’n barod.