Llŷr G. Lewis

Adar


Y gwynt oedd y peth roeddwn i'n ei anghofio bob amser, a'r arogl hallt a ddeuai yn ei sgil. A thawelwch gwahanol, llonyddwch a oedd fel pe bai'n dod o bellach i ffwrdd. Awyr llesol, meddyliais, cyn fy ngheryddu fy hun. Blinwn ar hyn bob tro y deuwn adref, y felan annelwig a'r 'i be es i ffwrdd o fama, deudwch?'. Doedd neb wedi 'ngorfodi i adael, na'm gorfodi i aros i ffwrdd chwaith. Caeais fy nghôt ac estynnais fy menig o'r bŵt, ac anelu tua'r gorllewin oddi wrth y dref, gan ddilyn y lan at y foryd fach.

 

Roeddwn wedi dechrau dod i arfer â'r arfer hwn o aeafu, o ddod adref am gyfnod dros y Nadolig a mynnu aros ychydig yn hwy, nes bod y gwaethaf o stormydd Ionawr drosodd. Tir corsiog y dauddegau canol, lle na fynnem, neu na welem, nyth. Dro braf oedd hi a'r gwynt i'm cefn. Roedd hi wedi addo glaw ond cadwasai draw hyd yma. Chwythai'r gwynt yn gryf, ond cadwai fy sgarff y gwaethaf i ffwrdd a gallwn glywed dolef ambell bioden fôr yma ac acw rhwng sŵn y cerrig dan draed. Doedd dim tywod ar y foryd, dim ond gwylanod, wrth gwrs. Bob amser, y gwylanod.

 

*

 

Fwy nag unwaith, roeddwn wedi cyrraedd y Cormorant i ddechrau fy shifft a baw'r gwylanod hynny yn stremps ar ysgwydd fy nghôt, neu'n waeth byth yn fy ngwallt. Ceisiwn lanhau'r cawlach pysgodlyd orau ag y gallwn yn y lle chwech, cyn bwrw iddi y tu ôl i'r bar. Nid nad oedd unrhyw frys yn y Bili, fel y'i gelwid gan drigolion y dref. Hyd yn oed ar nosweithiau Sadwrn, neu ŵyl y banc, roedd y Bilidowcar, ar stryd dawel ymhell o'r castell, ynghanol rhes o dai crand yn uchel uwchben y cei, yn dywyll ac yn dawel ac yn gysglyd.

 

Yno y daeth dynes un noson, yn nyddiau tawel y flwyddyn newydd, ac archebu sieri, mewn Cymraeg rhy raenus i fod yn Gymraeg y dref hon. Eisteddodd ger bwrdd wrth y ffenestr fel pe bai wedi gwneud hynny bob dydd o'i hoes. Gwenai dros y sieri gan syllu allan ar yr afon a lifai i'r culfor yn y mwrllwch islaw. O'r ochr, ymdebygai i aderyn, hebog efallai, a siâp crymanog ei thrwyn fel pig yn erbyn golau oren y stryd, fel pe bai wedi dewis lle uchel i edrych am ei phrae.

 

Roedd ei siôl, hefyd, wedi'i lapio o amgylch ei hysgwyddau fel adenydd. Ceisiais feddwl beth oedd wedi gwneud iddi fentro yma i dafarn ddistaw ddiarffordd, ond cyn i mi gael cyfle i sylwi na synio rhagor, roedd wedi gwagio'i gwydr a hedfan allan i'r nos. O'i hôl, ceisiais ddyfalu'i hoed, gan ddal i weld yn llygad fy meddwl gudynnau ei gwallt weiriog llwyd, wedi'u clymu'n ôl yn syml, yn llifo trwy'r drws ar ei hôl fel plu.

 

Dychwelodd y nosweithiau canlynol. Eisteddai bob tro wrth ei bwrdd bychan ger y ffenestr, gan wrando clychau tawel y cychod yn bobio islaw a chlywed y pïod a'r gwylanod cyn iddynt glwydo. Un noson, roedd rhywun yn eistedd wrth ei bwrdd. Am eiliad daeth fflach hebogaidd i'w hwyneb, ond yna diflannodd, ac eisteddodd wrth y bar yn lle hynny.

 

O sylwi arni cyn nesed, gwelais y crychau hyd ei hwyneb, a chyn deneued oedd y cudynnau gwallt llwyd a oedd wedi'u tynnu'n ôl mor ofalus. Roedd ei chroen o amgylch ei llygaid yn draed brain lle bu'r wên honno'n gadael ei hôl. Ac eto bûm gryn amser, ac arllwysais ambell beint, cyn magu plwc i godi sgwrs â hi.

 

Gwenodd; roedd hi'n falch, meddai, fy mod wedi torri'r garw. Bu'n dod i Gymru'n aml dros y blynyddoedd, a doedd unlle'n well ganddi na'r dref hon a'i heli a'i thrigolion hallt, a'r Gymraeg yn rhegfeydd wrth bob cornel. O ardal Toulouse y deuai'n wreiddiol: daeth yma i wneud astudiaeth ôl-raddedig o fardd lleol, dysgu'r iaith, a ffoli ar y wlad fel y bydd pobl weithiau heb fod ganddynt gymaint ag edefyn o gyswllt â'r lle. Roedd Cymru, meddai, wedi bod yn atynfa iddi ers degawdau, a bob nawr ac yn y man câi ei thynnu'n ôl yno, i hedeg o dir mawr y cyfandir, gan ryw gynneddf yr oedd ar fedr ei galw'n reddf.

 

Trafodai'r ddau ohonom gerddi'r bardd y bu hithau'n ei astudio a'i adnabod. Un noson, mentrais draw ati a hithau wedi'i hailsefydlu'i hun ger y bwrdd wrth y ffenestr, a chan ei bod yn weddol dawel, gadawodd Steven, landlord y Cormorant, i mi eistedd yno, cyn belled â'm bod yn codi o dro i dro i weini i'r hogia'. Gwirionwn ar glywed hanesion am ei hymweliadau â chartref y bardd nid nepell o'r dref hon, a'r croeso a gawsai yno ar hyd y blynyddoedd. 

 

Flwyddyn neu ddwy ar ôl cwblhau ei hastudiaethau, roedd y bardd wedi mynnu ei bod yn dychwelyd i aros gydag ef a'i wraig: roedd y ddau yn gweld ei heisiau, meddai yn ei lythyr, a rhaid oedd iddi ddod i fwrw'r haf. Roedd hi wedi rhoi cryn sioc i'r bardd pan ofynnodd a gâi ddod â'i dyweddi gyda hi. Cytunodd y bardd ar unwaith, ond roedd y croeso a gawsai hithau ac Arnaud, ei chariad, fymryn yn oerach na'r arfer.

 

Erbyn diwedd yr haf, ni allent wynebu gadael, ac mewn chwa sydyn o fyrbwylledd, penderfynodd y ddau y byddent yn ôl drachefn ymhen y mis. Gwylltiodd ei rhieni pan glywsant am y cynllun hwn, ond llwyddodd y cariadon i fenthyg swm bychan o arian gan rieni Arnaud, ac agor bwyty bychan ar yr union stryd hon, rai drysau i ffwrdd oddi wrth y Bilidowcar.

 

Datgelai'r wên ei chyfrinachau fesul crych. Yswn am gael dysgu rhagor, ond daeth stop tap ar ein gwarthaf, ac roedd hithau'n mynd yn ôl i'w chartref ar gyrion Paris yn y bore. Gofynnais am ei henw: Eloise Bertrand. Ddiwedd y noson, dymunais siwrne saff iddi'n ôl i Ffrainc, a mynegodd hithau ei dymuniad am gael prynu sieri arall gennyf ryw ddiwrnod, pan fyddai hi'n dychwelyd i'r dref ymhen blwyddyn neu ddwy. Ni chredai'r un ohonom y byddem yn gweld ein gilydd eto.

 

*

 

Roedd hynny bron i ddegawd yn ôl, pan weithiwn yn y Cormorant gyda'r nosau a mynd i'r ysgol bob dydd. Tybed a fyddwn i'n dal i weithio yno heddiw pe na bawn wedi symud i ffwrdd? Yn rhedeg y lle erbyn hyn; yn dlotach, yn brysurach, yn fodlonach efallai. Chwipiai'r gwynt yr ewyn i'm wyneb, ac anelais i fyny'r traeth at gysgod y clawdd. Allan ar y mwd, gwelwn rywun yn ei gwman yn hel cocos. Dim ond silwét ydoedd, a phan sythodd a chodi i gael hoe, safai'n llonydd llonydd, a pharai adlewyrchiad main ei goesau iddo edrych fel crëyr yn aros ei gyfle.

 

Hwya'n y byd y byddwn i ffwrdd, amla'n y byd yr ailadroddwn rai defodau bob tro y dychwelwn i aeafu, fel pe gallwn, rywsut, lithro'n ôl i lencyndod a dorrwyd yn ei flas. Gweld hen ffrindiau, yfed yn yr hen gyrchfannau. Un o'r defodau hyn oedd y dro ar fy mhen fy hun i'r foryd. Roeddwn yn benderfynol o'i cherdded cyn ei throi'n ôl am y de. 

 

Anelwn am forfa heli gorsiog a grwydrai tua'r culfor. Yno roedd ynysoedd bychain rhwng nentydd, a brwyn a chorwellt y gamlas. Fel arfer, dod i wylio'r foryd fach o ochr arall yr aber a wnawn, camu heibio i'r condoms trig ar lawr y cwt gwylio, ac agor yr hatsh yn y ffenestr i weld yr adar o bell. Ond roedd gennyf ysfa i ddod yn nes, i droedio'r union dir corsiog, ac roeddwn wedi dod o amgylch y pentir y ffordd hon, gan dresmasu, o bosib, ar dir rhyw ffermwr.

 

Fyddai waeth i mi ddymuno bod yn aderyn ddim, wrth gwrs: doeddwn i ddim yn un ohonynt ac roedd olion trwsgl fy nhraed yn y mwd yn arwydd o hynny. Ofnwn lithro neu ollwng fy nhroed i bwll mwdlyd, neu'n waeth byth sathru ar nyth llawn wyau ar y llawr. Ni welwn yr un aderyn yn unlle. Gwelais garreg weddol fawr wrth fôn y gwrych, ac eisteddais arni heb wybod a ddylwn fentro yn fy mlaen dros y tir corsiog neu droi'n ôl am gynhesrwydd y car. Gallwn weld heibio i'r aber y tywydd yn dod i mewn o Iwerddon ac o Fôn.

 

Gwelais fflach o ddu a gwyn, a gwreichionyn oren. Pioden fôr oedd yno, ac edrychai arnaf â'i llygaid cochion. Gelwais arni, ond troes i ffwrdd ac edrych allan tua'r culfor. Gelwais eto, ond cododd a lledaenu'i hadenydd a hedfan i ffwrdd. Gwnaeth gylch araf yn yr awyr, a glanio drachefn ychydig lathenni'n nes ataf. Edrychodd yn syth arnaf, gan ddal ei phen ar ogwydd. Roeddwn innau wedi darllen, yn blentyn, am adar a siaradai, ac am rai a siaradai â'r adar. 'Pam mae dy gri di mor hiraethus? Pwy rwyt ti'n gweld ei golli?' Daliodd y bioden i syllu. 'On'd wyt ti'n nythu â'r un cymar bob blwyddyn, yn dychwelyd yn ffyddlon at dy bartner?'

 

'Am ble, felly?' mentrais eto. 'Ai am le rwyt ti'n hiraethu?', a gallwn weld yn llygaid coch y bioden fôr fy mod yn nes ati. Ond atebodd hi ddim, dim ond codi eto a hedfan a chreu cylch araf a diflannu wedyn tuag ochr arall yr aber lle na allwn i ddilyn.

 

*

 

Ni welais 'mo Eloise y flwyddyn ganlynol gan fy mod wedi mynd am y ddinas. Erbyn fy ail aeaf yn y coleg, roedd arian yn brin a chytunodd Steven y cawn ddod yno'n f'ôl i dynnu peintiau dros y Nadolig a'r Pasg, ac y câi weld ynghylch yr haf. Un noson oer o Ionawr, yn fy wythnos olaf o waith cyn mynd yn ôl at yr arholiadau, glaniodd Eloise drachefn, y wên honno ar ei hwyneb a'r siôl fel adenydd ar ei hysgwyddau. 

 

Ar ôl ein sgwrs ddwy flynedd ynghynt, roeddwn wedi bod yn holi fy nhad am y bwyty bach Ffrengig a agorwyd gan Eloise ac Arnaud. Er nad oedd yntau wedi bod yno'i hun, roedd ganddo frith gof o'r lle. Roedd trigolion y dref wedi hen arfer â mewnfudwyr o lefydd fel yr Eidal, a thyrrent yn eu heidiau ar Sadyrnau cynnes i'r siop hufen iâ ar y sgwâr, ond roedd cael dau o Ffrancod, a'r rheiny'n ddi-briod, yn rhedeg bwyty yn y dref yn dipyn o beth.

 

'Wel ie, nid pawb oedd am dywyllu'r trothwy, er cystal y bwyd', oedd ymateb cellweirus Eloise pan grybwyllais hyn wrthi. 'Ond roedden ni'n hapus, yn hapus iawn. Fe fydden ni'n codi gyda'r wawr i fynd i'r farchnad ac yna'n chwysu drwy'r dydd, finnau'n gweini ac Arn yn coginio, ac roedd ganddon ni ambell un arall efo ni erbyn y diwedd, ond i mi yr amser gorau oedd pan nad oedd ond fi ac yntau. Fe fydden ni'n syrthio gyda'n gilydd i'r gwely bach uwchben y bwyty, yn chwys ac yn arogl garlleg i gyd ac wedi ymlâdd ond yn hapus, ac fe fyddwn i'n gwylio'r lleuad uwchben y castell a'r goleuadau bach coch a gwyrdd ar y dŵr wrth iddo anwesu fy nghefn i, ac yna fe fyddai e'n fy ngharu i ac wedyn roedd y ddau ohonom ni'n gorwedd, yn aros i glywed y gwylanod a phïod y môr ac yn diolch, diolch nad oedden ni'n hiraethu bellach fel roedden nhw. Doedd gennym ni'r unlle arall i fod.'

 

Soniai am y nosweithiau meithion, a oedd wedi troi'n chwedl, bron, pan fyddai'r bardd a'i gyfeillion yn dod i fwyta. Fe fydden nhw'n archebu bwrdd hir ynghanol y stafell fechan, ac yna'n raddol fe fyddai'r cwsmeriaid eraill yn gadael fesul deuoedd nes bod ganddyn nhw'r lle iddyn nhw'u hunain, ac wedyn fe fyddai'r hwyl yn dechrau, y straeon a'r cerddi a'r canu, ac un o hyd yn sâl yn y gornel cyn gallu dod o hyd i'r lle chwech.

 

'Wedyn, ar ddyddiau Llun, fe fydden ni'n cau'r lle ac yn mynd am dro, weithiau i fyny'r bryn uwch y dref neu at y tŵr bach dros yr afon, ar hyd y foryd i glywed arogl y gwymon budur, neu pe baem ni eisiau siarad â'r adar, tua'r foryd fach. Roedd Arnaud yn arfer tynnu fy nghoes i, yn dweud bod f'adareg i'n well na 'Nghymraeg i… wrth gwrs doedd e ddim yn medru'r Gymraeg a doedd e ddim yn gweld yr angen. Fi fyddai'n gwneud y siopa, a'r sgwrsio, a'r gweini. Yn y gegin roedd e.' Yn fwy iddi hi ei hun, bellach, nag er fy mudd i: 'yr Alarch Ddof, y Crëyr Bach, Hwyaden yr Eithin, Pioden y Môr a'r Gylfinir. Roedd yno fwy o'r rheini yn y gaeaf. Y Cwtiad Torchog, Cwtiad y Traeth a'r Pibydd Coesgoch, yn yr haf. Ac ambell i Gornchwiglen, os oeddech chi'n lwcus. Ac yn y pellter wrth geg yr aber, yr heidiau o chwiwellod, yn dod adref i aeafu.'

 

Roedd Arnaud wedi gorfod dychwelyd i Ffrainc tua diwedd eu trydedd flwyddyn yma, rhywbeth i'w wneud â'i iechyd, a hithau, ar ôl setlo â'r landlord a ffarwelio ag ambell un, wedi'i ddilyn y gwanwyn canlynol. Edrychodd Eloise drwy'r ffenestr drachefn, heibio i'r cychod islaw ar yr afon, draw dros y coed ar y bryncyn gyferbyn a thu hwnt at y mynyddoedd.

 

*

 

Deuai'r gwynt ar ruthr bellach o gwmpas y tro ar y pentir, ac yn y pellter roedd yr Eifl eisoes wedi diflannu. Ers i'r bioden fôr ei throi hi am yr aber roeddwn wedi bod yn eistedd yn gwbl lonydd, a bellach roeddwn i'n dechrau crynu. Yna, ryw ddwy ynys i ffwrdd oddi wrthyf, gwelais sypyn o gorwellt yn chwifio'n groes i'r cyrs eraill. O syllu'n nes, gwelais mai patrwm brith y gylfinir oedd yno; gallwn ei adnabod yn syth wrth fwa hir ei big. Roedd yn tyrchu'n y mwd dan ei draed, yn chwilio am enwair neu ddarn blasus o granc.

 

Ceisiais ofyn iddo o ble'r oedd wedi dod i lanio yma. Ai o Lychlyn neu o'r Alban, o Siberia o bosib. Roeddwn i eisiau gofyn iddo beth yn union a wnâi iddo ddychwelyd i'r fan hon, flwyddyn ar ôl blwyddyn. A oedd rhywbeth arbennig yn y llecyn hwn yn benodol? Neu a ddeuai'r cysur yn syml o'r ddefod ei hun o ddychwelyd.

 

Mae'n rhaid bod y gwynt wedi cipio fy llais, neu 'mod i wedi anghofio f'adareg, achos ni wnaeth gymaint â chodi'i big o'r mwd. O'r diwedd syrffedodd ar ei helfa, a chodi i hedeg. Canodd wrth fynd, ac yn ei wich, ac yn atsain y wich honno yn erbyn y glannau, ac yn ei gwanhad wrth i'r gylfinir ymbellhau, gallwn glywed yr ehangder a oedd bellach fel llanw hallt rhyngof a'm plentyndod.

 

*

 

Dros y blynyddoedd cefais ambell sgwrs ag Eloise wrth iddi ddal i glywed y dre'n galw, ac wrth i minnau drwy drugaredd Steven gael dod i weithio, yn llai a llai mynych, yn y Cormorant am fymryn o bres poced. Roedd hi'n weddw ers rhai blynyddoedd ac wedi bod yn dysgu myfyrwyr cyfnewid o dramor mewn prifysgol ym Mharis. Meddwai'r israddedigion ar Verlain a Rimbaud a Baudelaire. Hoffai hefyd ddysgu'i myfyrwyr Ffrengig am Gymru trwy gyfieithiadau, gan ymgymryd â llawer o'r gwaith ei hun. Dangosai iddynt yr hyn roedd hithau wedi'i ddysgu yma, bod iaith yn forfa ac yn adenydd.

 

Un tro, roedd myfyrwraig wedi datblygu rhyw obsesiwn ag Eloise, a byddai'n ei dilyn i bobman ar y campws. Dechreuodd anfon llythyrau ati, cyn cael gafael ar rif ffôn cartref Eloise a'i ffonio bob awr o'r nos. Wrth gwrs aeth at yr awdurdodau'n syth, ond gwrthodent ei chredu. Gwnaeth y fyfyrwraig gŵyn yn ei herbyn; roedd y pennaeth adran yn amheus ond yn bwyllog, a rhoddodd gyfnod o wyliau tosturiol iddi, gan argymell, o'i hadnabod, y dref hon. Daethai hithau ar ei hunion.

 

'Pan mae pethau drwg yn digwydd i mi, mae Cymru wastad yn galw mewn rhyw ffordd', meddai Eloise yn ddistaw; roedd hi'n faddeugar.

 

*

 

Welais i mo'r un cornchwiglen, er tybio imi glywed cri o bell. Wn i ddim. Maen nhw'n dweud eu bod yn prinhau hyd y lle, llai o reswm i ddychwelyd i aeafu bob blwyddyn a'u cynefin yn cael ei ddifa. Bwriadwn fynd yn fy mlaen, ond ar ganol y llwybr gwelais hanner corff aderyn, gwylan mwy na thebyg, wedi'i ystumio nes na allwn fod yn siŵr pa ben oedd p'un. Roedd rhywfaint o sgerbwd, a phlu hyd y lle, ond allwn i ddim gweld llawer o gïau a doedd dim drewdod. Rhaid ei fod felly ers dyddiau, ond roedd yn ddigon i beri i mi droi'n f'ôl.

 

Roedd y gwynt i'm herbyn bellach, ac o'r diwedd fe ddaeth y glaw, yn genllysg erbyn hyn: tywydd pig. Pigai'r cerrig fy nhalcen a'm clustiau, a cheisiais godi fy ngholer a phlannu fy nwylo'n ddwfn yn fy mhocedi. Deuai'r llanw i mewn ar garlam; troedio'n fân ac yn fuan rhwng y clawdd a'r don fyddai raid, a cheisio troi fy wyneb oddi wrth y cenllysg. Roedd y dyn hel cocos wedi diflannu.

 

*

 

Dim ond unwaith y gwelais Eloise wedi hynny. Diwedd haf oedd hi, finnau'n gweini tu ôl i'r bar am y tro olaf. Erbyn yr haf canlynol byddai gennyf swydd barhaol yn y ddinas. Archebodd sieri yn ôl ei harfer, ond roedd y wên yn bylach a'r crychau yn ei hwyneb wedi dyfnhau, a mwy o wyn yn y gwallt gofalus. Roedd hi'n falch o'm gweld, meddai, ac archodd ar i mi fynd i eistedd gyda hi wrth y bwrdd ger y ffenestr.

 

Bu'r ddau ohonom yn sgwrsio'n wamal am ychydig. Roedd y bardd wedi marw'n ddiweddar, ac roedd hithau wedi cysylltu â'r wraig ond heb gael ateb. Finnau heb ystyried na chysylltu Eloise â'r dyn o ran oed – i mi, roedd hi gymaint ieuengach nag yntau er nad oedd mewn gwirionedd lawer mwy na rhyw bum mlynedd rhyngddynt. Teimlai hithau fod Cymru'n wacach o'i ôl er nad oedd wedi siarad ag o ers dros ddegawd. Eisteddodd y ddau ohonom mewn tawelwch am ychydig, a sŵn y gwylanod oddi allan.

 

'Pan mae pethau drwg yn digwydd i mi, mae Cymru wastad yn galw mewn rhyw ffordd', mwmialodd Eloise o nunlle. 'A dyma fi'n ôl eto. Ond all hi ddim galw mwyach, efallai'. 

 

Ers tro roedd hi wedi sylwi ar yr arwyddion: chwilio am ei sbectol cyn sylwi bod honno'n gorwedd yn daclus ar ben ei gwallt; ffonio'i nai, dim ond i anghofio pam roedd hi wedi galw yn y lle cyntaf; yn waeth na dim, wedi dechrau anghofio diwedd brawddegau cyn eu hyngan. Dyna oedd y dychryn mwyaf: methu â siarad.

 

Trwy ei chlegar yr oedd wedi datgelu ei bywyd i mi. Dim ond y cyfnodau yng Nghymru, am ryw reswm, a oedd yn dal yn grisial glir. Bron na châi'r Gymraeg yn haws na'r Ffrangeg bellach. Maentumiai y gallai heno, pe gofynnwn iddi, adrodd pob enw o gwmni'r nosweithiau enwog hynny ddegawdau'n ôl.

 

'Arhoswch yma, ynta', cynigiais. 'Mae o'n amlwg yn gwneud lles i chi: siawns nad oes 'na ryw ffordd?'

'Hm. Chaf i ddim croeso gan y weddw bellach. A ddaw 'na neb gyda fi. Oni bai dy fod ti'n bwriadu dod nôl i'r dre 'ma, i edrych ar ôl hen wdihŵ fel fi?'

 

Gwelwn yr hen lygaid hebog yn fy nghyhuddo yn ei chwestiwn chwareus. Ac eto rywsut ni allwn f'argyhoeddi fy hun mai dyma'r tro olaf y byddwn yn ei gweld. Roedd ei chanfod yma wedi dod yn un o'r defodau hynny bob tro y deuwn adref. Roedd hi'n rhan o'r gaeafu.

 

Sgwrsiodd y ddau ohonom drwy'r nos ac ni welais yn ei hosgo na'i hagwedd, na chlywed yn ei llais, na synhwyro chwaith yn ei llygaid hebog yr un arlliw o'r niwl mawr a oedd ar ddod i ostwng drosti. Yn dawel y ffarweliais â hi ac yn dawel y gwyliais hi'n gwagio'i gwydr a hedfan allan i'r nos. Gallwn ddal i weld yn llygad fy meddwl gudynnau ei gwallt weiriog gwyn, wedi'i glymu'n ôl yn syml, yn llifo trwy'r drws ar ei hôl fel plu.

 

*

 

Dyma gyrraedd y car o'r diwedd, ond roeddwn yn socian eisoes. Newidiais fy nhrowsus, a gyrru'n nes at y bont droed. Ystyriais fynd yn syth adref, ond parciais y car wrth y cei. Doedd waeth i mi heb. 

Nid anelais am y Bilidowcar, ond yn hytrach am y dafarn arall wrth y dŵr, yr un a chanddi lestri pres wedi'u pol'sho a lanterni sbeiliwrs yn hongian wrth y bar, a llongau bach mewn poteli ar silffoedd y ffenestri, lle gwelwn y machlud dros y culfor yn lle gweld y nos yn cyrraedd heb rybudd dros y mynyddoedd a thros y coed. Yno, chlywn i mo'r pïod, dim ond y gwylanod, ac yno, fe wyddwn, byddai rhai o'm cydnabod ers dyddiau ysgol yn aros amdanaf, lle cawn feddwi'n gaib yn eu cwmni cyn troi trwyn y car yn ôl tua'r ddinas yn y bore, tua'r gwanwyn, gan wybod y cawn, a'r milltiroedd yn llithro o dan y modur, deimlo'r euogrwydd a'r chwithdod yn diosg oddi amdanaf wrth imi esgyn a hedfan.